Rhoi System Budd-daliadau Cymru ar waith yn llawn

Dylid datganoli nawdd cymdeithasol er mwyn i ni allu dylunio a darparu amddiffyniadau cymdeithasol wedi’u gwneud yng Nghymru sy’n adlewyrchu anghenion a gwerthoedd ein pobl a’n cymunedau yn well. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud hyn.

Wrth i ni frwydro dros ddatganoli pwerau llawn dros les, byddwn yn gweithio i wella System Budd-daliadau bresennol Cymru – sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, Bwndeli Babi, Prydau Ysgol am Ddim, y Grant Hanfodion Ysgol, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Thalebau Cychwyn Iach.

Byddwn yn:

  • Cadw Grŵp Llywio Budd-daliadau Cymru, i sicrhau bod gwaith yn parhau ar gyflwyno System Budd-daliadau Cymru, gan gynnwys ymgorffori Cynnal fel budd-dal newydd i Gymru.
  • Adolygu effeithiolrwydd budd-daliadau unigol presennol Cymru, yn ogystal â chynlluniau cysylltiedig fel y Gronfa Cymorth Dewisol, er mwyn cael yr effaith fwyaf bosib a sicrhau gwerth am arian.
  • Sicrhau bod meini prawf cymhwysedd a gwerth arian budd-daliadau Cymru yn addas i’r diben.
  • Symleiddio mynediad at fudd-daliadau Cymru, gan gynnwys creu dyletswydd statudol i’w darparu’n awtomatig i aelwydydd cymwys.
  • Edrych ar opsiynau ar gyfer budd-daliadau Cymru yn y dyfodol, fel Grant Babanod i helpu rhieni newydd mewn aelwydydd incwm isel i fforddio offer hanfodol.

Cyfiawnder a Thegwch Cymdeithasol: darllen mwy