Yn rhy aml, mae pobl yng Nghymru yn meddwl am eu hawliau fel dyheadau, yn hytrach nag amddiffyniadau cyfreithiol go iawn. Nid yw ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gynnal setiau allweddol o hawliau wedi cael eu trosi’n fframweithiau cyfreithiol a mecanweithiau atebolrwydd sydd eu hangen i sicrhau bod yr hawliau hyn yn golygu rhywbeth ym mywyd pobl o ddydd i ddydd.
Yn unol ag argymhellion gan y Cenhedloedd Unedig, pwyllgorau’r Senedd ac arbenigwyr cyfreithiol annibynnol, bydd Deddf Hawliau Dynol newydd yn ymgorffori cytundebau rhyngwladol allweddol yn llawn yng nghyfraith Cymru, gan gynnwys:
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (UNCRDP)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW)
- Y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICECSR)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil (CERD)
- Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)
Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu darparu drwy ddull cadarn sy’n seiliedig ar hawliau a bod pobl anabl, menywod, cymunedau sy’n cael eu diffinio ar sail hil, plant a phobl ifanc, a phobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi a lloches yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddylunio, gweithredu a monitro polisi cyhoeddus.