Cymru Wrth-hiliol

Mae hiliaeth yn dal yn broblem strwythurol yn ein cymunedau, ein heconomi a’n gwleidyddiaeth. Rydyn ni’n falch o’n rôl yn cyflawni’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i’w wreiddio a’i ddatblygu.

Byddwn yn:

  • Gwreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil yng nghyfraith Cymru drwy Ddeddf Hawliau Dynol i Gymru.
  • Parhau i adolygu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac adrodd ar y cynnydd, gan weithio’n agos gyda phobl sydd â phrofiad bywyd o hiliaeth, gwrth-Semitiaeth, Islamoffobia a rhagfarn yn erbyn Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gryfhau’r ddarpariaeth a’r effaith.
  • Gwella’r gwaith o gasglu a rhannu data i sbarduno ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynnwys ar droseddau casineb a digwyddiadau hiliol mewn ysgolion.
  • Cryfhau’r broses o riportio troseddau casineb a’r cymorth i ddioddefwyr, gan sicrhau bod digwyddiadau’n cael sylw prydlon ac effeithiol.
  • Gwreiddio addysg gwrth-hiliaeth ar draws y cwricwlwm.
  • Sicrhau bod strategaethau a rhaglenni i fynd i’r afael â thlodi yn rhoi sylw manwl i’r lefel uwch o dlodi ymysg cymunedau Du ac ethnig leiafrifol.
  • Gweithio i gynyddu cynrychiolaeth pobl Ddu ac ethnig leiafrifol yng ngwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus Cymru, a chryfhau dyletswyddau i hybu amrywiaeth a chynhwysiant mewn prosesau recriwtio ar draws sefydliadau sy’n cael arian cyhoeddus.

Cyfiawnder a Thegwch Cymdeithasol: darllen mwy