Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd. Dylai menywod a merched allu byw heb wynebu gwahaniaethu, trais ac anfantais economaidd, a mwynhau grym, cyflog a chyfleoedd cyfartal.
Gan ddefnyddio dull croestoriadol sy’n seiliedig ar hawliau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, byddwn yn:
- Gwreiddio ac ymgorffori hawliau menywod a merched yn y gyfraith, drwy Ddeddf Hawliau Dynol newydd i Gymru.
- Gweithio i roi terfyn ar anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn economi Cymru, gan gynnwys drwy gymorth wedi’i dargedu i fenywod allu cael swyddi medrus sy’n talu’n dda, cyllidebu ar sail rhywedd, a chasglu, dadansoddi a chyhoeddi data economaidd cadarn wedi’i ddadgyfuno yn ôl rhywedd fel mater o drefn, gan gynnwys data ar y bwlch cyflog.
- Gwella mynediad at ofal plant fforddiadwy drwy ein cynnig gofal plant newydd, cefnogi gofalwyr di-dâl, a sicrhau bod gweithwyr gofal yn cael eu talu’n deg.
- Cryfhau’r Cynllun Iechyd Menywod a Merched a gwarantu cynnyrch mislif am ddim i wella urddas mislif.
- Gweithio i gynyddu cynrychiolaeth menywod a merched mewn gwleidyddiaeth, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu gwreiddio’n ystyrlon yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Byddwn yn gweithio ar draws pob maes llywodraeth i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), a hynny drwy ddull system gyfan, cymdeithas gyfan, sy’n seiliedig ar atal.
Bydd hyn yn cynnwys siarad â phobl o bob oed mewn ysgolion, gweithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais a cham-drin. Byddwn yn gwreiddio addysg ar berthnasoedd iach ac yn rhoi arweiniad i rieni, addysgwyr ac arweinwyr cymunedol i gefnogi ymyriadau cynnar.
Byddwn yn helpu cyflogwyr i greu gweithleoedd mwy diogel, heb drais na cham-driniaeth.
A byddwn yn rhoi cymorth i dioddefwyr a goroeswyr drwy ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol sy’n canolbwyntio ar oroeswyr, a drwy eithrio llochesi ar unwaith o’r Ddeddf Rhentu Cartrefi i sicrhau mynediad at lety diogel.