System fewnfudo sy’n gweithio i Gymru

Nid yw polisi mudo yn fater datganoledig ac mae Llywodraethau olynol y DU wedi gadael cymunedau a mudwyr i lawr gyda’u polisïau.

Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r cyfraniad pwysig mae pobl o bob cwr o’r byd yn ei wneud i’n cymunedau, ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus, ac rydyn ni’n condemnio’r rhai sy’n troi mewnfudo’n fater sy’n rhwygo pobl a chymunedau.

Dydy Plaid Cymru ddim yn cefnogi ffiniau agored na mewnfudo direolaeth. Pe bai pwerau dros fudo yn cael eu datganoli, byddai modd i ni ddarparu system mudo rheoledig deg sy’n seiliedig ar reolau, sy’n gweithio i Gymru, sy’n adlewyrchu ein hanghenion, ac sy’n cynnal ein gwerthoedd. Rydyn ni’n falch o hanes hir Cymru o groesawu pobl sy’n ffoi rhag trais neu erledigaeth gyda pharch, diogelwch a thosturi.

Er nad oes gan Gymru’r pŵer ar hyn o bryd i benderfynu pwy sy’n ceisio lloches yma, gallwn drin y rhai sy’n cyrraedd yn gwrtais, darparu cymorth a chyfleoedd iddynt gyfrannu at eu cymunedau, a sicrhau eu bod yn gallu ailadeiladu eu bywydau’n ddiogel a gydag urddas.

Byddwn yn:

  • Mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth am geiswyr lloches, ffoaduriaid a mudwyr – gan ddiogelu’r weledigaeth ryngwladol o genhedloedd noddfa a sicrhau bod yr egwyddorion sy’n sail i’r weledigaeth hon yn cael eu gwreiddio ar draws polisi ac ymarfer y llywodraeth mewn ffyrdd sy’n hybu integreiddio a chydlyniant cymunedol.
  • Pleidio’r achos dros greu fisa sy’n benodol i Gymru a rhestr o alwedigaethau lle mae prinder fel y camau cyntaf at ddatganoli pwerau dros fewnfudo yn llawn.
  • Gwrthwynebu cyfyngiadau ar fisâu myfyrwyr ac annog mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i ddewis astudio yng Nghymru.
  • Datblygu strategaeth gydlynol i roi cymorth i fudwyr a cheiswyr noddfa sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, gan weithio’n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid yn y trydydd sector i roi diwedd ar amddifadedd.

Rydyn ni’n gwrthwynebu model presennol Swyddfa Gartref y DU ar gyfer ‘gwestai lloches’, sy’n cyfrannu at densiynau cymunedol, sy’n gallu cynyddu’r pwysau ar wasanaethau lleol ac sy’n gwneud ceiswyr lloches yn ynysig ac yn agored i niwed.

Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio cymal terfynu 2026 yn ei chontractau rheoli presennol i ddisodli’r system hon sydd wedi methu, gan eirioli dros bolisi gwasgaru teg sy’n hybu integreiddio, yn cydnabod anghenion tai lleol ac yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn briodol.


Cyfiawnder a Thegwch Cymdeithasol: darllen mwy