Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu cynnal eu hannibyniaeth a'u hurddas wrth iddynt heneiddio – gan sicrhau y gall pobl hŷn barhau i chwarae rhan lawn a gweithredol yn eu cymunedau, a bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cynllunio gyda'u hanghenion penodol mewn golwg.
Byddwn yn:
- Hyrwyddo iechyd a lles pobl hŷn drwy Gynllun Iechyd Pobl Hŷn newydd a ffocws newydd ar fesurau iechyd ataliol.
- Cymryd y camau nesaf tuag at ddarparu gwasanaeth iechyd a gofal integredig i Gymru.
- Adeiladu ar wasanaethau presennol i gyflawni addasiadau a gwelliannau tai fel bod pobl hŷn yn gallu byw'n annibynnol ac yn ddiogel, a chyflwyno cynllun newydd i uwchraddio ac ôl-osod mwy o gartrefi yn gyflymach – gan eu gwneud yn gynhesach ac yn rhatach i'w rhedeg, a chyfrannu hefyd at ein huchelgeisiau Net Sero.
- Sicrhau bod mesurau i fynd i'r afael â thlodi yn ystyried anghenion pobl hŷn. Bydd hyn yn cynnwys cryfhau gwasanaethau cyngor a chymorth mewn ffordd nad yw'n eithrio pobl hŷn yn ddigidol, er mwyn helpu mwy o bobl i gael mynediad at yr ystod lawn o fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt.