LHDTC+

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau pobl LHDTC+ yng Nghymru a sicrhau bod pawb yn gallu byw heb ragfarn, anoddefgarwch a chasineb. Roedd Plaid Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn cael ei gyflawni, a bydd ein llywodraeth yn gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei roi ar waith yn llawn.

Rydyn ni’n gwrthod ymdrechion i droi bywydau, profiadau a hunaniaeth pobl LHDTC+ yn fater diwylliannol cynhennus sy’n peri rhwyg. Byddwn yn sefyll dros gydraddoldeb ac urddas, ac yn gwrthwynebu pob math o homoffobia, deuffobia a thrawsffobia.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Adolygu a, lle bo angen, cryfhau’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, dal gwasanaethau cyhoeddus yn atebol, a mesur ac adrodd ar gynnydd yn erbyn y Cynllun.
  • Sicrhau bod addysg – gan gynnwys addysg ar ryw a pherthnasoedd iach – yn gynhwysol i bobl LHDTC+, a gwreiddio mesurau gwrth-fwlio mewn ysgolion.
  • Pwyso ar Lywodraeth y DU am waharddiad llawn, traws-gynhwysol ar ‘therapi trosi’, gan sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cymryd pob cam posib i fynd i’r afael â’r arferion niweidiol hyn a chefnogi goroeswyr.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru, gan ddilyn yr arferion rhyngwladol gorau, i sicrhau bod pobl – gan gynnwys pobl ifanc – yn gallu cael gafael ar ofal priodol a phrydlon yng Nghymru heb orfod teithio i Loegr.
  • Gweithio tuag at broses symlach ac anfeddygol ar gyfer cydnabod rhywedd, gan gynnwys drwy fynd ar drywydd datganoli pwerau perthnasol.
  • Rhoi cefnogaeth barhaus i sefydliadau Pride, a chefnogi cynnig Cymru i gynnal EuroPride yn 2029.

Cyfiawnder a Thegwch Cymdeithasol: darllen mwy