Addysg dda yw’r dechrau gorau y gallwn ei roi i’n plant ac i’n pobl ifanc, a dyma’r sylfaen y byddwn yn adeiladu dyfodol ein cenedl arni.
O’r crud i fyd gwaith a’r tu hwnt, byddwn yn canolbwyntio ar gael y pethau hanfodol yn iawn, ac yn darparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar bawb i lwyddo.
Mae addysg wrth galon ein huchelgais ar gyfer Cymru – dyma’r allwedd i ddatgloi cyfleoedd newydd a gwell, ac i ddatblygu Cymru i fod yn wlad fwy hyderus, arloesol a chynhyrchiol, fel y gwyddom sy’n bosib.
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r blynyddoedd cynnar o ran gosod y sylfeini ar gyfer llesiant a datblygiad gydol oes. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn ehangu mynediad at ofal plant o ansawdd, er mwyn rhoi’r dechrau gorau posib i bob plentyn, cefnogi teuluoedd gyda biliau’r cartref, a chreu cyfleoedd newydd i rieni ddychwelyd i’r gwaith.
Byddwn yn codi’r safonau addysgol yn ein hysgolion, ac yn grymuso ein gweithlu addysg ymroddedig i wneud yr hyn maen nhw’n ei wneud orau – addysgu.
Byddwn yn sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn gallu cael mynediad at y llwybr sy’n iawn iddyn nhw, gan wneud yn siŵr bod addysg alwedigaethol a thechnegol yn cael yr un statws â llwybrau academaidd.
A byddwn yn gosod ein prifysgolion ar sylfeini newydd sy’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.