Dull cofleidiol o ymdrin ag ymddygiad, presenoldeb a llesiant

Ers pandemig Covid, mae absenoldebau cyson yn ysgolion Cymru wedi cynyddu, mae achosion o ymddygiad gwael wedi cynyddu, ac mae iechyd meddwl myfyrwyr wedi gwaethygu. Mae mwy o gynnwys niweidiol ar-lein, ac mae mwy o blant a phobl ifanc yn ei weld. Mae athrawon yn dweud eu bod yn treulio llai o amser yn addysgu a mwy o amser yn rheoli’r heriau hyn, ac mae’r cyfan yn effeithio ar ddysgu a llesiant myfyrwyr.

Byddwn yn:

  • Datblygu fframwaith sy’n dwyn ynghyd ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, a gwasanaethau ieuenctid i fynd i’r afael â’r materion hyn sy’n gorgyffwrdd yn fwy effeithiol.
  • Sicrhau bod yr arferion gorau o ran mynd i’r afael ag ymddygiad gwael ac absenoldeb yn cael eu rhannu’n fwy cyson rhwng ysgolion, yn lleol ac yn genedlaethol, a bod digwyddiadau’n cael eu trin, eu cofnodi a’u hadrodd mewn ffordd gyson.
  • Ehangu cyfleoedd dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar reoli ymddygiad, a datblygu canllawiau newydd ar ddiogelwch ar-lein.
  • Pan fydd disgybl yn symud i ysgol newydd ar ôl gwaharddiad neu symudiad wedi’i reoli, gwneud yn siŵr bod yr ysgol sy’n derbyn y disgybl hwnnw yn cael yr wybodaeth bwysig sydd ei hangen arni am ei ymddygiad, gan barchu rheolau preifatrwydd a diogelu data ar yr un pryd.

Byddwn yn treialu rhaglen gofleidiol newydd ‘Ysgolion Cymunedol a Mwy’, gan edrych ar sut y gellir cyfuno ffrydiau cyllido gwahanol i integreiddio gwasanaethau ieuenctid a gwreiddio cymorth arbenigol sy’n ystyriol o drawma mewn ysgolion – er mwyn mynd i’r afael yn well â’r pethau sylfaenol sy’n achosi absenoldeb, heriau ymddygiadol, ac anghydraddoldeb addysgol.

Byddwn yn grymuso awdurdodau lleol i hybu diogelwch, dysgu a llesiant myfyrwyr drwy gyfyngu ar y defnydd o ffonau clyfar mewn ysgolion ymysg plant dan 16 oed, gan weithio gyda chynghorau ac arweinwyr ysgolion i weithredu hyn mewn ffordd ymarferol a chymesur, gydag eithriadau priodol lle bo angen.


Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy