Llwybr sgiliau sy’n gweithio i bob myfyriwr

Bydd hyrwyddo addysg bellach, cryfhau hyfforddiant a llwybrau galwedigaethol, a rhoi dewis go iawn i ddysgwyr a’u cyfeirio’n glir at eu hystod lawn o opsiynau, yn flaenoriaeth i lywodraeth Plaid Cymru.

Byddwn yn datblygu system sgiliau sy’n gweithio i bob dysgwr ac sy’n darparu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer addysg, gwaith a hyfforddiant i bob person ifanc – gyda strategaeth genedlaethol glir ar gyfer addysg a chymwysterau galwedigaethol sy’n diwallu anghenion Cymru nawr ac yn y dyfodol, ac sy’n cyd-fynd â chyfleoedd swyddi go iawn.

Byddwn yn cryfhau cysylltiadau â chyflogwyr, yn ehangu cyfleoedd profiad gwaith a phrentisiaethau, ac yn cefnogi llwybrau cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel. Drwy hybu cydweithrediad agosach rhwng ysgolion a cholegau, byddwn yn cefnogi’r broses o gyflwyno’r Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU), ac yn sicrhau bod Prentisiaethau Iau ar gael drwy bob coleg.

Byddwn hefyd yn parhau i ehangu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes ac ailhyfforddi oedolion, er mwyn i ddysgwyr o bob oed allu pontio’n ddidrafferth o addysg i waith ac i astudiaethau pellach.

Byddwn yn diogelu’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £40 i ddysgwyr cymwys rhwng 16 a 18 oed.


Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy