Addysg cyfrwng Cymraeg

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau i sicrhau bod gan bob plentyn hawl i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy ddefnyddio’r pwerau yn Neddf y Gymraeg ac Addysg yn llawn.

Byddwn yn cynyddu cyfran a nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg, gyda tharged o sicrhau bod o leiaf 50% o ddisgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050, a bod y ddarpariaeth hon yn hygyrch, yn gynhwysol, ac yn gallu manteisio ar adnoddau digonol.

Byddwn yn cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch.


Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy