Mae gan Gymru hanes hir a balch o ragoriaeth mewn addysg uwch. Mae ein prifysgolion wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn eu cymunedau, ac yn sbarduno twf mewn economïau lleol a rhanbarthol. Nhw hefyd yw porth Cymru i’r byd ehangach.
Ond mae’r sector dan bwysau ariannol difrifol, ac mae canran y bobl ifanc 18 oed yng Nghymru sy’n dewis mynd i’r brifysgol yn gostwng.
Fel mater o flaenoriaeth, bydd llywodraeth newydd Plaid Cymru yn comisiynu adolygiad annibynnol a chynhwysfawr o’r sector addysg uwch cyfan a sut y caiff ei ariannu yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn datblygu consensws trawsbleidiol ar ffordd gynaliadwy ymlaen i’n prifysgolion.
Un o brif elfennau’r adolygiad fydd sicrhau bod mwy o’r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario ar addysg uwch yn cael ei gadw yng Nghymru. Rydyn ni eisiau annog mwy o’n talent ifanc i aros yng Nghymru neu ddychwelyd yma, yn ogystal â denu mwy o bobl i ddod i Gymru i astudio ac i weithio.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu ac yn diwygio rhaglen Seren, fel ei bod yn cefnogi myfyrwyr yn well i wneud cais i fynd i brifysgolion Cymru, ac yn targedu cymorth i gau’r bwlch cyfranogiad rhwng myfyrwyr o gymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig Cymru.
Byddwn yn parhau i alw am ddatganoli cyfran Cymru o gyllid ymchwil y DU.
Byddwn hefyd yn cefnogi’r cynnig ar y cyd rhwng Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth i agor Ysgol Ddeintyddol newydd, ac Ysgol Filfeddygol annibynnol yn Aberystwyth.