Roedd Adolygiad Ymarfer Plant Estynedig diweddar Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn tynnu sylw at fethiannau difrifol mewn arferion diogelu a chydlynu aml-asiantaeth. Byddwn yn mynd i’r afael â’r methiannau hyn ac yn sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant ac yn gofalu amdanynt yn deall eu cyfrifoldebau, ac yn gweithredu’n gyflym pan fydd pryderon diogelu’n codi.
Gan dderbyn holl argymhellion yr Adolygiad ac ymrwymo i weithredu arnynt, byddwn yn:
- Sicrhau bod lleisiau plant yn rhan ganolog o benderfyniadau diogelu, gan gynnwys pan nad ydyn nhw wedi gwneud datgeliad ffurfiol ond eu bod yn dangos arwyddion y gallai fod angen help arnynt.
- Datblygu deddfwriaeth sy’n cyflwyno dyletswyddau newydd i roi gwybod am achosion o gam-drin plant yn rhywiol, yn unol ag argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
- Cyflwyno safonau diogelu cenedlaethol newydd fel bod pob gwasanaeth sy’n gweithio gyda phlant yn dilyn yr un disgwyliadau clir.
- Sicrhau bod gan ddysgwyr ac addysgwyr ddealltwriaeth lawn o sut i adnabod a riportio arwyddion grŵmio drwy hyfforddiant proffesiynol ac Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.
- Gosod gweithdrefnau cenedlaethol cyson ar gyfer ymateb i bryderon, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n brydlon a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar y cyd ar draws asiantaethau perthnasol.
- Cryfhau arweinyddiaeth a llywodraethiant, gyda dyletswyddau diogelu penodol ar gyfer cyrff llywodraethu ac uwch arweinwyr ysgolion, a phrosesau i graffu’n annibynnol ar sut maen nhw’n eu bodloni.
- Creu dull cenedlaethol cyson lle dysgir o bryderon diogelu, fel bod gwersi’n arwain at welliannau ledled Cymru, nid dim ond o fewn gwasanaethau unigol.
Byddwn yn sicrhau bod safonau addysgol a safonau diogelu yn cael eu cynnal yn gyson wrth addysgu gartref, a byddwn yn adolygu trefniadau llywodraethu ysgolion i sicrhau bod ein hysgolion yn cael eu rheoli’n effeithiol ac yn dryloyw.
Bydd pob dysgwr yng Nghymru yn cael addysg gynhwysfawr am ddiogelwch digidol ac ar-lein, llythrennedd yn y cyfryngau, a sut mae adnabod camwybodaeth a thwyllwybodaeth.