Ehangu’r Cynllun Prydau Ysgol Am Ddim

Plaid Cymru sy’n gyfrifol am y ffaith bod gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru bellach yr hawl i gael prydau ysgol am ddim – gan wneud yn siŵr nad oes yr un plentyn yn llwgu yn ystod y diwrnod ysgol, cefnogi myfyrwyr i ddysgu, a rhoi un gost yn llai i deuluoedd boeni amdani.

Ers i’r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim i Bob Plentyn Ysgol Gynradd ddechrau ym mis Medi 2022, mae dros 50 miliwn o giniawau ysgol am ddim wedi cael eu darparu i ddysgwyr cynradd yng Nghymru.

Byddwn yn adeiladu ar hyn drwy ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim i ysgolion uwchradd, gan ddechrau drwy sicrhau bod pob disgybl ym Mlynyddoedd 7-11 o aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yn gallu hawlio prydau ysgol am ddim, heb gyfyngiad incwm.

Fel rhan o Strategaeth Fwyd genedlaethol newydd ac ehangach i Gymru, byddwn yn sicrhau bod prydau ysgol yn iachach ac yn cynnwys mwy o gynnyrch o Gymru.


Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy