Mae’r dystiolaeth yn glir – mae buddsoddi mewn gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd da yn talu ar ei ganfed yn y tymor hir. Mae’n rhoi dechrau da i’n plant, ac yn rhoi mwy o ryddid i rieni ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau, neu ymgymryd ag addysg neu hyfforddiant. Caiff y manteision eu teimlo yn y tymor byr a’r tymor hir.
Gyda biliau gofal yng Nghymru yn uwch nag yn unman arall yn y DU ar hyn o bryd, mae miloedd o rieni’n gweithio dim ond i dalu am gost gynyddol gofal plant, ac mae llawer yn methu fforddio gofal o gwbl.
Ar ben hyn, mae’r broses o wneud cais am gynlluniau gofal plant yn aml yn ddryslyd ac yn rhy gymhleth i deuluoedd.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn darparu cynnig gofal plant newydd trawsnewidiol i bob plentyn rhwng 9 mis a 4 blwydd oed.
Bydd ein cynnig newydd yn:
- Cynyddu’n raddol i 20 awr o ofal yr wythnos ar gyfer pob plentyn rhwng 9 mis a 4 blwydd oed, am 48 wythnos y flwyddyn, gan anrhydeddu’r cynnig 30 awr presennol ar gyfer plant 3 a 4 oed y mae eu rhieni mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant.
- Cyflwyno un system ymgeisio symlach er mwyn i deuluoedd allu ei defnyddio’n hawdd.
- Edrych ar ffyrdd o wella mynediad at ofal plant i rieni sy’n gweithio oriau afreolaidd ac sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys ehangu’r ddarpariaeth drwy warchodwyr plant.
- Cefnogi ac ehangu gofal plant cyfrwng Cymraeg, gan gryfhau’r llwybr o’r blynyddoedd cynnar i addysg cyfrwng Cymraeg.
Wrth i ni gyflwyno’r cynnig newydd hwn yn ofalus fesul cam, byddwn yn gweithio’n agos gyda darparwyr gofal plant i feithrin capasiti ar draws y sector a thyfu’r gweithlu er mwyn ymdopi â’r ehangiad.
Er mwyn sicrhau cyflog teilwng i weithwyr a chynaliadwyedd ariannol i fusnesau yn y sector, byddwn yn gosod cyfraddau teg fesul awr ar gyfer cyllid sy’n cael ei hawlio, ac yn eu hadolygu’n rheolaidd. Byddwn hefyd yn defnyddio’r arferion rhyngwladol gorau wrth i ni geisio gwneud yn siŵr bod gofal plant yn yrfa werthfawr – gyda chyfleoedd da o ran dilyniant gyrfa a datblygiad proffesiynol.
Byddwn yn gweithio gyda’r sector i sicrhau bod darpariaeth gofal plant y tu hwnt i’r blynyddoedd cynnar – gan gynnwys darpariaeth ar ôl ysgol ac yn ystod y gwyliau – yn parhau i ddatblygu er mwyn diwallu anghenion teuluoedd ar hyd a lled Cymru.