Byddwn yn mynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, yn ogystal â meithrin mwy o annibyniaeth o ran ynni a gwella diogeledd bwyd a chadernid cymunedol.
Drwy roi cymorth cryf i’n ffermwyr ac i’n cymunedau gwledig, gallwn lunio dyfodol sy’n gweithio i bobl ac i’r blaned.
Mae gennym lond gwlad o adnoddau naturiol – gwynt, dŵr a thonnau – sy’n golygu bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn arweinydd pontio gwyrdd teg. Gyda hyn daw cyfleoedd cyffrous ar gyfer datblygu economaidd a chymunedol.
Mae ein gallu i gynhyrchu bwyd cynaliadwy o ansawdd eithriadol hefyd yn ased allweddol – un y mae’n rhaid i ni ei ddiogelu a’i ddatblygu.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau newydd beiddgar i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur sy’n gorgyffwrdd.
Byddwn yn sicrhau bod pobl, teuluoedd a busnesau yng Nghymru yn elwa go iawn ar ein potensial ynni adnewyddadwy.
A byddwn yn cryfhau ein cymunedau gwledig, yn cefnogi ein ffermwyr, ac yn gweithio i adeiladu system fwyd gynaliadwy i Gymru.