Mynd i’r afael â sgil-effeithiau diwydiannol Cymru a chefnogi cymunedau’r meysydd glo

Mae cymunedau ledled Cymru yn parhau i deimlo sgil-effeithiau diwydiannau cloddiol a thrwm y gorffennol – tomennydd glo anniogel, safleoedd cloddio glo brig, tir halogedig, a’r bygythiad gan ‘gemegau am byth’ peryglus fel PFAS.

Mae angen gweithredu ar frys i wneud hen dir diwydiannol yn ddiogel, diogelu iechyd y cyhoedd, a sicrhau cyfiawnder amgylcheddol hir-ddisgwyliedig i’r cymunedau sydd wedi teimlo’r effeithiau mwyaf. Mae Plaid Cymru yn credu’n glir mai San Steffan ddylai dalu’r bil am fynd i’r afael â’r peryglon hyn, sy’n bodoli ymhell cyn datganoli yng Nghymru.

Byddwn yn:

  • Cyflawni rhaglen genedlaethol i ddiogelu ac adfer tomennydd glo segur, gan sicrhau bod pob tomen yn cael ei monitro, ei chynnal a’i hadfer yn briodol. Byddwn yn parhau i fynnu bod Llywodraeth y DU yn ariannu’r gwaith hwn yn briodol ac yn llawn.
  • Sefydlu strategaeth Cymru gyfan ar adfer tir halogedig – mapio, blaenoriaethu ac adfer tir ôl-ddiwydiannol yn raddol i sicrhau nad yw cymunedau bellach yn gartrefi i safleoedd diffaith, priddoedd gwenwynig, a dyfrffyrdd llygredig.
  • Archwilio ffyrdd o gryfhau’r egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’, ar y cyd â Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau bod y rhai sydd wedi elwa ar effeithiau diwydiant trwm yn cael eu dal yn gyfreithiol gyfrifol am adfer y tir yn llawn.
  • Cryfhau’r gwaith o fonitro a rheoleiddio sylweddau niweidiol, gan gynnwys sylweddau poly- a perfflworoalcyl (PFAS), gyda phrofion gorfodol mewn ardaloedd uchel eu risg a chynlluniau gweithredu clir i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU i wahardd ‘cemegau am byth’ sy’n parhau i halogi ein tir, ein hafonydd a’n moroedd.
  • Adolygu polisïau cynllunio sy’n ymwneud â chwarela agregau i ddiogelu ansawdd aer lleol.
  • Hybu technegau adfer cynaliadwy sy’n seiliedig ar natur, fel creu gwlyptiroedd, adfer pridd, a chynlluniau plannu sy’n helpu i amsugno llygryddion, sefydlogi llethrau, a gwella bioamrywiaeth.

Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tegwch go iawn i’r cymunedau sy’n teimlo sgil-effeithiau mwyaf diwydiant trwm yng Nghymru.

Bydd adfer yr amgylchedd yn mynd law yn llaw â’n cynlluniau i dyfu busnesau, darparu swyddi da, adeiladu cyfoeth cymunedol, ac adnewyddu canol trefi mewn cymunedau glofaol sy’n dal i deimlo effeithiau diwydiannol Cymru ar yr amgylchedd, ar yr economi ac ar iechyd.

Byddwn yn gweithio i droi’r gorffennol diwydiannol hwn yn fantais – gan gefnogi prosiectau sy’n addasu dŵr cynnes o byllau glo llawn dŵr fel ffynhonnell gwres glân a fforddiadwy i gymunedau glofaol. Byddwn yn datblygu partneriaethau newydd ac yn edrych ar opsiynau ariannu arloesol i gysylltu mwy o leoedd â rhwydweithiau gwres dŵr pyllau glo, ac yn cefnogi’r gwaith o greu swyddi lleol medrus yn y sector hwn.


Cynaliadwyedd, Adnoddau a Gwytnwch Gwledig: darllen mwy