Y goeden iawn yn y lle iawn

Mae plannu coed yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o adfer byd natur, gwella ansawdd aer a dŵr, lleihau’r perygl o lifogydd, a mynd i’r afael â newid hinsawdd – a dydy Cymru ddim wedi gwireddu llawn botensial ei phren fel adnodd cynaliadwy eto.

Er mwyn tyfu gorchudd coed Cymru a helpu i adeiladu diwydiant pren ffyniannus, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Hybu’r gwaith o blannu coed a gwrychoedd, a helpu ffermwyr i integreiddio coed i’w busnesau drwy amaeth-goedwigaeth, coedwigaeth fasnachol ar raddfa fach, a bio-olosg.
  • Rhoi blaenoriaeth i greu coetiroedd brodorol, adfer coetiroedd a choetiroedd cymysg – gan ddiogelu tir amaethyddol o ansawdd uchel ac osgoi planhigfeydd corfforaethol ar raddfa fawr sy’n cael eu creu dim ond er mwyn gwrthbwyso carbon.
  • Ymestyn targedau gorchudd coed a gwrychoedd i dir sy’n eiddo i gyrff cyhoeddus neu’n cael ei reoli ganddynt.
  • Cynyddu gorchudd coed trefol, gan roi blaenoriaeth i geisiadau a chyllid ar gyfer cymunedau sydd â’r gorchudd isaf.
  • Defnyddio caffael cyhoeddus i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer pren Cymru, hybu arloesedd a thwf busnes yn y sector drwy’r Asiantaeth Datblygu Cenedlaethol newydd, a gweithio gyda’r sector i gyflawni Strategaeth Ddiwydiannol Pren Cymru.

Cynaliadwyedd, Adnoddau a Gwytnwch Gwledig: darllen mwy