Cefnogi pysgodfeydd Cymru a gwarchod ein moroedd

Mae moroedd Cymru yn cynnal cyfoeth o fywyd morol, ac mae ein harfordir yn fyd-enwog am ei harddwch a’i fioamrywiaeth. Os caiff ei reoli’n dda, gall ein hamgylchedd morol barhau i gefnogi pysgota, dyframaethu, twristiaeth a chymunedau arfordirol cynaliadwy, gan chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Hyrwyddo pysgodfeydd Cymru, gan gefnogi’r diwydiant pysgota fel rhan hanfodol o system fwyd ac economi arfordirol Cymru, a gweithio i wella’r mynediad at farchnadoedd Ewropeaidd a byd-eang ehangach ar gyfer pysgod a bwyd môr Cymru.
  • Darparu cyllid tymor hir wedi’i deilwra drwy Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru i gefnogi busnesau pysgota cynaliadwy, gwella cydnerthedd, a helpu fflyd pysgota Cymru i addasu i heriau yn y dyfodol.
  • Datblygu Fframwaith Cynllunio Morol newydd i ddisodli dulliau rheoli morol sy’n dameidiog ac yn gorgyffwrdd. Bydd y fframwaith hwn yn seiliedig ar gyd-reolaeth wirioneddol, gyda physgotwyr masnachol a physgotwyr ar raddfa fach yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o wneud penderfyniadau, ochr yn ochr â rhanddeiliaid amgylcheddol, cymunedol a’r diwydiant.
  • Hyrwyddo arferion pysgota a dyframaethu cynaliadwy, a chryfhau gwarchodaeth o fewn y rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig drwy roi’r gorau’n raddol i weithgareddau niweidiol fel carthu a threillrwydo môr-waelodol lle mae’r dystiolaeth yn dangos bod hyn yn bygwth cynefinoedd sensitif. Bydd cymorth pontio teg, gwyddoniaeth gadarn, a phrosesau monitro a gorfodi effeithiol yn mynd ochr yn ochr â hyn, gan weithio gyda Llywodraeth y DU a phartneriaid eraill i sicrhau bod mesurau cadwraeth Cymru yn cael eu defnyddio’n gyson ac yn deg.
  • Cefnogi Cynllun Morwellt Cenedlaethol a thwf diwydiant gwymon Cymru – gan symleiddio trwyddedu morol, hybu arferion trin cyfrifol, a helpu i adeiladu cadwyn gyflenwi gadarn a gwydn ar gyfer gwymon yng Nghymru.
  • Gweithredu strategaeth cadwraeth adar môr a chynnal mesurau bioddiogelwch cryf i warchod ardaloedd bridio a bwydo pwysig.

Cynaliadwyedd, Adnoddau a Gwytnwch Gwledig: darllen mwy