Y daith at annibyniaeth ynni

Er mwyn i Gymru sicrhau mwy o ddiogeledd ynni a chyrraedd sero net erbyn 2040, gwyddom fod yn rhaid i ni gynhyrchu llawer mwy o ynni adnewyddadwy. Os caiff hyn ei wneud yn iawn, mae’r pontio hwn yn cynnig cyfleoedd mawr i’n pobl, ein busnesau a’n cymunedau – gan greu swyddi, meithrin sgiliau a denu buddsoddiad – a bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf.

Un o’n blaenoriaethau cyntaf mewn llywodraeth fydd datblygu Strategaeth Ynni Genedlaethol, gan fapio anghenion ynni Cymru nawr ac yn y dyfodol, ac amlinellu cynllun clir a hirdymor ar gyfer y seilwaith sydd ei angen i fodloni’r anghenion hyn. Bydd hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr a chymunedau fel ei gilydd, yn nodi lle mae angen seilwaith newydd, ac yn sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar dechnolegau gwyrdd newydd, gan gynnwys hydrogen gwyrdd.

Bydd Bargen Sector newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yn cydlynu camau gweithredu rhwng y llywodraeth, y diwydiant ynni adnewyddadwy, addysg bellach ac uwch, a chymunedau ac undebau llafur, gan ddarparu gofynion cynllunio cliriach ac amserlenni cydsynio cadarn a rhagweladwy ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy.

Mae pontio teg yn golygu sicrhau bod gan bobl a chymunedau fwy o berchnogaeth dros ynni adnewyddadwy yng Nghymru a’u bod yn gweld mwy o fanteision hynny – a’u bod yn cael eu cyfran deg o’r elw hefyd.

Rhan ganolog o’r uchelgais hon yw datganoli Ystad y Goron a chadw gwerth llawn prydlesu tir Cymru a gwely ein môr ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Byddwn yn pwyso am ddatganoli Ystad y Goron ar frys, er mwyn cadw a buddsoddi ei helw yng Nghymru yn y tymor hir drwy Gronfa Cyfoeth Cymru newydd, i gefnogi ynni cymunedol, tai fforddiadwy ac ynni-effeithlon, a seilwaith cenedlaethol hanfodol.

Byddwn yn gweithio i sicrhau’r manteision llawn i gymunedau Cymru o brosiectau ynni sydd y tu allan i’r setliad datganoli ar hyn o bryd, ac yn cefnogi seilwaith ynni strategol allweddol – gan gynnwys y seilwaith newydd sydd ei angen i alluogi’r ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot. Byddwn yn parhau i bwyso am ddatganoli rhagor o bwerau, gan gynnwys dros reoleiddio a phrisio.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynyddu perchnogaeth ystyrlon Cymru ar ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod elw’n cael ei ailfuddsoddi yn ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus. Byddwn yn ehangu Trydan Gwyrdd Cymru drwy integreiddio Ynni Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru – gan greu un cwmni ynni cenedlaethol cryfach gyda mwy o rym, mwy o gapasiti i gynyddu perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy, a chylch gwaith clir i helpu i leihau biliau ynni yn y tymor canolig i’r tymor hir.

Er mwyn sicrhau ymhellach bod ein cymunedau wir yn elwa ar ynni adnewyddadwy yng Nghymru, byddwn yn:

  • Blaenoriaethu perchnogaeth gymunedol ystyrlon a chefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau ynni – i helpu cymunedau i ddod at ei gilydd i gynhyrchu, defnyddio a chadw cymaint o drydan a gwres ag y gallant yn lleol ac ar y cyd, gan feithrin hunangynhaliaeth ynni a helpu i leihau biliau.
  • Ymestyn y datblygu sy’n cael ei ganiatáu i roi llawer mwy o hyblygrwydd i gartrefi, ffermydd a busnesau osod eu tyrbinau gwynt bach eu hunain, yn ogystal â phaneli solar ar y to a rhai bach ar y ddaear, batris a phympiau gwres.
  • Mynnu bod gan bob prosiect ynni dros 10 MW, fel un o’r prif amodau cydsynio, gyfran perchnogaeth gymunedol sylfaenol rhwng 15% a 25%, model budd lleol cyfatebol, taliad Cronfa Gyfoeth, neu ffordd gyfatebol o sicrhau buddion i’r gymuned. Byddwn hefyd yn sicrhau bod ardrethi busnes ar ffermydd gwynt a solar yn cael eu cadw gan yr awdurdod lleol perthnasol.
  • Sicrhau bod graddfa, lleoliad ac effaith gronnol datblygiadau ynni – gan gynnwys seilwaith trawsyrru a dosbarthu – yn cael eu hystyried yn briodol drwy’r system gynllunio, gan ffafrio prosiectau sydd wedi’u dylunio’n dda ac wedi’u gwasgaru’n briodol sy’n cydbwyso effaith leol â darpariaeth effeithlon, yn ogystal â diogelu tir amaethyddol cynhyrchiol.
  • Mynd ati ar unwaith i wahardd peilonau delltog dur mawr ar gyfer llinellau 11-132 kV newydd yng Nghymru, gyda rhagdybiaeth glir o blaid gosod ceblau o dan y ddaear a chaniatáu dewisiadau uwchben dim ond pan fyddant yn cael eu gosod gyda pholion pren isel neu seilwaith cyfatebol, llai ymwthiol.
  • Edrych ar opsiynau arloesol ar gyfer ariannu cymunedau ynni, ynni adnewyddadwy i gartrefi a chydberchnogaeth ar ddatblygiadau ar raddfa fwy, gan gynnwys drwy Gronfa Cyfoeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Cynaliadwyedd, Adnoddau a Gwytnwch Gwledig: darllen mwy