Bydd Plaid Cymru yn cymryd camau beiddgar i lanhau ein haer, lleihau gwastraff a lleihau llygredd – i ddiogelu iechyd y cyhoedd a gwella’r lleoedd lle rydyn ni’n byw.
Byddwn yn:
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i fabwysiadu safonau aer glân Sefydliad Iechyd y Byd a lleihau llygredd aer – yn enwedig o amgylch ysgolion, cartrefi gofal a mannau eraill lle mae llygredd aer yn fwyaf tebygol o effeithio ar bobl agored i niwed – wedi’i gefnogi gan fonitro cryf, camau gorfodi, ac adroddiadau tryloyw i’r cyhoedd.
- Cael gwared ar blastigau un-tro diangen yn raddol, gan ddechrau gyda phecynnau ffrwythau a llysiau ffres sydd ddim yn ymestyn yr oes silff rhyw lawer, gan leihau faint o blastig sy’n troi’n sbwriel neu’n ficroblastigau yn ein bwyd a’n hecosystemau.
- Cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes Cymru ar gyfer cynwysyddion diod plastig a metel – gan gynnwys gwydr pan fydd hyn yn ymarferol bosib, a gydag eithriadau perthnasol i atal costau ychwanegol i fusnesau bach.
- Sicrhau dull teg ‘y llygrwr sy’n talu’, er mwyn i’r rhai sy’n creu llygredd ysgwyddo’r gost o’i lanhau – nid cymunedau lleol na busnesau cyfrifol.