Dŵr yw un o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr Cymru – ac mae’n ased â hanes hir a chymhleth. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau ar unwaith i sicrhau bod pwerau dros ddŵr yn cael eu datganoli’n llawn, gan ddefnyddio’r pwerau hyn i wella ansawdd dŵr, i fynd i’r afael â llygredd ac i gefnogi mwy o fforddiadwyedd tymor hir i gartrefi.
Byddwn yn:
- Gofyn yn ffurfiol am ddatganoli pwerau dros ddŵr yn llawn i Gymru, fel sy’n bosib o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017.
- Sefydlu rheoleiddiwr dŵr newydd i Gymru, gyda phwerau i osod rheolaethau prisiau wedi’u gwneud yng Nghymru, cyfyngu ar daliadau bonws gormodol cwmnïau dŵr, a chyfeirio buddsoddiad cyfalaf er mwyn lleihau gollyngiadau carthion, uwchraddio dŵr gwastraff a draeniau, a gwneud gwelliannau amgylcheddol ehangach.
- Cynyddu’r nifer sy’n defnyddio mesuryddion dŵr ac archwilio tariffau blociau cynyddol fel ffordd o leihau biliau dŵr.
- Amlinellu llwybrau at wladoli dŵr Cymru ac archwilio opsiynau ar gyfer ardoll ar drosglwyddo dŵr dros y ffin.
Byddwn yn gosod targedau newydd, gorfodol i leihau llygredd yn ein hafonydd a’n moroedd, yn seiliedig ar yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’, ac yn erlyn y rhai sy’n llygru dro ar ôl tro, ac yn ddifrifol.
Byddwn yn casglu mwy o ddata a gwell data ar ddigwyddiadau llygredd ac yn gweithio i sicrhau bod pob corff dŵr yng Nghymru yn ennill statws ‘da’ o leiaf – gan gynnwys drwy symud o’r dull ‘ffermio yn ôl y calendr’ hen ffasiwn o fynd i’r afael â dŵr ffo o amaethyddiaeth, i system sy’n cael ei harwain gan wyddoniaeth, sy’n seiliedig ar ganlyniadau ac sy’n briodol i risg, ac sy’n atal llygredd gan gefnogi ffermio cynaliadwy ar yr un pryd.