Yng Nghymru y ganwyd y GIG.
Bron i 80 mlynedd ers sefydlu ein gwasanaeth cyhoeddus mwyaf gwerthfawr, mae’r heriau sy’n ei wynebu yn dra gwahanol.
Dyna pam mae gan Blaid Cymru gynllun radical i adnewyddu ac i ailadeiladu’r GIG ar ôl blynyddoedd o gamreoli.
Mae miloedd o bobl yn defnyddio gwasanaethau’r GIG yng Nghymru bob dydd, ac mae ein meddygon, ein nyrsys a’n gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig eraill yn rhoi gofal rhagorol.
Er mwyn y cleifion ac er mwyn ein gweithlu gofal iechyd, mae angen sicrhau bod ein GIG yn y sefyllfa orau bosib i ddarparu gofal prydlon ac o safon i bawb sydd ei angen.
Byddwn yn buddsoddi mewn cadw pobl yn iachach yn hirach – gan leihau’r angen i drin salwch drwy roi mwy o gefnogaeth i bobl wella eu hiechyd a’u llesiant.
Drwy fynd ati o’r newydd i gynnig arweinyddiaeth benderfynol a thrawsnewidiol i’n GIG, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i’r afael â’r pwysau mwyaf uniongyrchol ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, gan greu’r lle sydd ei angen i sicrhau gwell cydbwysedd rhwng atal a thrin afiechyd.
Byddwn yn mynd i’r afael â rhestrau aros hir ac yn dechrau symud ffocws ac adnoddau tuag at hybu iechyd cyhoeddus gwell, sicrhau gwell mynediad at y gwasanaethau iechyd o ddydd i ddydd a ddarperir gan ddeintyddion a meddygon teulu, a gwireddu ein huchelgais o integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn.