Covid – dysgu gwersi ar gyfer Cymru

Mae angen atebion ar deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid oherwydd Covid ac maen nhw’n haeddu tawelwch meddwl. Mae’n bwysig dysgu gwersi hanfodol yn sgil pandemig Covid er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw argyfyngau iechyd y cyhoedd yn y dyfodol.

Rydyn ni wedi bod yn gyson glir nad yw’r ymchwiliad ar lefel y DU yn mynd yn ddigon pell i ddarparu atebolrwydd am y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, nac i baratoi Cymru ar gyfer pandemig yn y dyfodol.

Oherwydd hyn, yn ystod blwyddyn gyntaf tymor nesaf y Senedd, byddwn yn sefydlu adolygiad o ymateb Cymru i Covid, ei sgil-effeithiau, a’r gwersi ar gyfer y dyfodol, gan ganolbwyntio ar faterion a chwestiynau sy’n benodol i Gymru nad ydynt yn cael sylw yn ymchwiliad y DU gyfan.


Iechyd, Gofal a Llesiant: darllen mwy