Gan hyrwyddo gwell mesurau atal, diagnosis cynharach, a gofal a thriniaeth cyflymach sy’n canolbwyntio ar y claf, byddwn yn:
- Ehangu prosesau sgrinio ac ymwybyddiaeth o gyflyrau o bwys, gan gynnwys strôc, clefyd cardiofasgwlaidd a HIV, a sicrhau bod mesurau atal fel PrEP yn cyrraedd mwy o’r bobl sydd eu hangen.
- Sicrhau gofal teg, diogel, ac o ansawdd uchel ym mhob rhan o Gymru, drwy gryfhau llwybrau clinigol cenedlaethol – ar gyfer strôc, offthalmoleg ac iechyd cardiofasgwlaidd – gan wreiddio hawliau cleifion a lleihau amrywiadau rhwng rhanbarthau.
- Mynnu bod holl gynlluniau gofal a thriniaeth GIG Cymru yn dechrau gyda sgwrs ‘Beth sy’n bwysig i chi’, a bod canlyniadau’r holl brofion yn cael eu cyfleu’n glir i gleifion o fewn pythefnos.
- Gwella systemau a data – gwella cofnodion electronig, cryfhau prosesau monitro sy’n benodol i gyflyrau, a chyfathrebu â chleifion yn glir ac yn hygyrch.
- Datblygu a chryfhau gweithlu’r GIG, drwy gefnogi Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, ehangu prentisiaethau a lleoliadau, a gwella mynediad at staff arbenigol ar draws gwasanaethau menywod, plant a phobl hŷn.
- Cefnogi pobl i fyw’n dda gyda chyflyrau hirdymor, drwy wella mynediad at adsefydlu, ehangu canolfannau gofal sylfaenol amlddisgyblaethol, a hybu cymorth wedi’i deilwra i bobl sydd ag anghenion synhwyraidd, anghenion symudedd, neu anghenion cymhleth.
Byddwn yn adnewyddu Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer HIV, gyda’r bwriad o roi terfyn ar achosion newydd o HIV erbyn 2030.