Diogelu ein GIG at y dyfodol

Dan arweinyddiaeth Plaid Cymru, bydd ein GIG bob amser am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen, a byddwn yn diogelu presgripsiynau am ddim.

Dim ond drwy ddatblygu GIG sy’n mynd i’r afael â heriau yfory y gallwn ddelio’n briodol â phwysau heddiw.

Wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu pen-blwydd y GIG yn 80 oed, a’r tu hwnt, byddwn yn rhoi sylfaen newydd a chynaliadwy i’n gwasanaethau iechyd a gofal er mwyn ymateb i heriau’r 21ain ganrif.


Iechyd, Gofal a Llesiant: darllen mwy