Dim ond 44% o bobl yng Nghymru sy’n gallu cael gafael ar ddeintyddiaeth drwy’r GIG ar hyn o bryd, ac mae recriwtio a chadw deintyddion yn fater hollbwysig.
Er mwyn mynd ati i adnewyddu gwasanaethau deintyddol, ac fel cam hollbwysig i sicrhau nad yw fforddiadwyedd yn rhwystro pobl rhag cael gofal iechyd y geg, byddwn yn ailedrych ar gontract deintyddiaeth y GIG, ac yn rhoi dyletswydd newydd ar fyrddau iechyd i asesu anghenion deintyddol lleol a chymryd pob cam rhesymol i sicrhau ac i gynnal lefelau staffio deintyddol digonol i ddiwallu’r anghenion hynny.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n hyfforddi yng Nghymru yn fwy tebygol o aros yng Nghymru. Dyna pam mae Plaid Cymru wedi bod yn cefnogi cynnig Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth i agor Ysgol Ddeintyddol newydd ers tro byd, a byddwn yn cefnogi hyn fel llywodraeth.