Mae pwysau iechyd meddwl yng Nghymru wedi dwysáu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wrth i ni barhau i deimlo sgil-effaith pandemig Covid. Mae tua 30% o ymgynghoriadau â meddygon teulu yng Nghymru heddiw yn ymwneud ag iechyd meddwl i ryw raddau, ac mae 55% o bobl ifanc 16-25 oed wedi cysylltu â’u meddyg teulu gyda phryder iechyd meddwl.
Mae Plaid Cymru wedi arwain y ffordd o ran cryfhau gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, gan gynnwys sicrhau canolfannau argyfwng iechyd meddwl newydd i bobl ifanc. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adeiladu ar hyn.
Er mwyn cefnogi strategaeth iechyd meddwl a llesiant effeithiol, byddwn yn diogelu’r cyllid sydd wedi'i neilltuo i iechyd meddwl yng Nghyllideb Cymru.
Ar ben hynny, byddwn yn:
- Sefydlu partneriaeth integredig a chydweithredol rhwng y sector statudol a’r trydydd sector i gyflenwi darpariaeth iechyd meddwl.
- Hyrwyddo’r model ‘dim drws anghywir’, gan wneud atgyfeiriadau iechyd meddwl yn haws, a galluogi mwy o bobl i hunanatgyfeirio.
- Gweithio tuag at well integreiddiad rhwng gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) a gwasanaethau iechyd meddwl oedolion (AMHS), er mwyn atal pobl ifanc sy’n cael triniaeth am iechyd meddwl rhag teimlo eu bod ‘ar ymyl y dibyn’ pan fyddant yn troi’n 18 oed.
- Sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd meddwl amenedigol (PMH) ac ar gyfer y berthynas rhwng rhiant a babi (PIR) ar draws ardaloedd byrddau iechyd.
- Datblygu a chryfhau Llwybr Gofal Profedigaeth Cenedlaethol Cymru, a hyrwyddo’r arferion gorau o ran cefnogi rhieni a theuluoedd sydd wedi colli babi.
- Ehangu addysg ar atal hunanladdiad, a sefydlu tasglu pwrpasol i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o hunanladdiad yng Nghymru, yn enwedig ymysg dynion.