Mae o leiaf 300,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Byddai disodli’r gofal maen nhw’n ei ddarparu yn costio dros £10 biliwn y flwyddyn, sydd gymaint â chyllideb gyfan GIG Cymru.
Byddwn yn gwarchod y cymorth presennol y mae gofalwyr di-dâl yn ei gael yng Nghymru. Gan gydnabod maint eu cyfraniad at iechyd a llesiant yng Nghymru, gan gydnabod bod angen i’w llywodraeth eu cefnogi’n well, a’u bod yn haeddu hynny, byddwn hefyd yn:
- Gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod Asesiadau o Anghenion Gofalwyr yn cael eu cwblhau o fewn 28 diwrnod, a bod gofalwyr yn gallu manteisio ar eu hawl i gael seibiant.
- Datblygu hyfforddiant wedi’i deilwra i ofalwyr di-dâl sy’n gofalu am rywun ar ddiwedd ei oes, a sicrhau eu bod yn gallu cael gafael ar gysylltiadau gofal iechyd allweddol, gan gynnwys cymorth a gofal lliniarol a diwedd oes 24/7.
- Pwyso ar Lywodraeth y DU i wneud y Lwfans Gofalwyr yn decach, a rhoi cymorth pwrpasol i ofalwyr di-dâl hawlio’r holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt ar hyn o bryd – gan gynnwys Credyd Pensiwn, tariffau cymdeithasol a gostyngiadau eraill ar filiau cyfleustodau.
- Cydnabod gofalwyr di-dâl fel grŵp blaenoriaeth, gan gynnwys wrth lunio ymyriadau costau byw a gwrth-dlodi, a pholisïau gwaith teg.