Cynnydd tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol

Mae Plaid Cymru’n credu y dylid darparu gofal cymdeithasol, fel gofal iechyd, yn rhad ac am ddim i bawb sydd ei angen. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i wireddu’r weledigaeth hon.

Mae’r rhaniad presennol rhwng gofal iechyd – sy’n cael ei ddarparu gan GIG Cymru – a gofal cymdeithasol – sy’n gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol yn bennaf – yn artiffisial, yn aneffeithlon, ac yn anghynaliadwy. Mae’n gohirio prosesau trosglwyddo gofal – gan atal pobl rhag gadael yr ysbyty, blocio gwelyau, a gwneud rhestrau aros yn hirach.

Er mwyn cymryd y camau nesaf tuag at greu Gwasanaeth Iechyd a Gofal cwbl integredig i Gymru, byddwn yn:

  • Mynnu cydweithrediad cryfach rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, drwy gynllunio mewn modd mwy cydgysylltiedig, cydlynu adnoddau’n well, a rhannu’r cyfrifoldeb dros gyflawni yn gliriach.
  • Cyfarwyddo’r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth newydd i ddatblygu ac i weithredu canllawiau cenedlaethol safonol ar ofal cymdeithasol – ar gyfer comisiynu gwasanaethau, casglu data, ac asesu anghenion.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gofal i sicrhau mai’r Cyflog Byw Gwirioneddol yw’r gyfradd isafswm cyflog ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • Cefnogi ac ehangu modelau gofal cymdeithasol cydweithredol a mentrau cymdeithasol.

Mae gofal lliniarol a diwedd oes yn rhan hanfodol o’n system iechyd a gofal, a byddwn yn gweithio i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu’r gwasanaethau hyn drwy wneud y canlynol:

  • Gweithio gyda byrddau iechyd, darparwyr gofal a rhanddeiliaid perthnasol eraill i ddatblygu model cyllid cynaliadwy newydd.
  • Mynnu bod byrddau iechyd yn asesu anghenion gofal lliniarol a diwedd oes yn eu dalgylchoedd ac yn defnyddio hyn i lywio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau – gan gyhoeddi cynlluniau cyflawni lleol ar gyfer gofal lliniarol.
  • Sicrhau bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cynnwys arweinydd gofal lliniarol a diwedd oes.

Iechyd, Gofal a Llesiant: darllen mwy