Trin y pethau sy’n achosi salwch, nid dim ond y symptomau

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy a mwy o arbedion ffug wrth reoli a chyllido ein gwasanaethau iechyd yng Nghymru.

Rydyn ni wedi bod yn buddsoddi llai nag y dylem mewn mesurau sy’n cadw pobl yn iach, ac yna’n talu’r pris pan fyddant wedyn yn mynd yn sâl, angen triniaeth, neu’n gorfod rhoi’r gorau i weithio.

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio i liniaru’r anghydbwysedd hwn. Byddwn yn sicrhau bod y prosesau llunio polisïau ar draws y llywodraeth yn gweithio i fynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd – gan gynnwys ym meysydd tai, addysg a lleihau tlodi – ac yn ailflaenoriaethu iechyd y cyhoedd ac iechyd ataliol i gadw pobl yn iachach yn hirach.

Byddwn yn:

  • Creu Gweinidog Iechyd y Cyhoedd newydd yn Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol pobl ym mhopeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud – gan sicrhau bod holl bolisïau’r Llywodraeth yn cyd-fynd â’r nod o greu poblogaeth iachach, a chanolbwyntio’n benodol ar gyflyrau cronig fel gordewdra a diabetes math 2.
  • Datblygu Strategaeth a Fframwaith Iechyd y Cyhoedd newydd a chynhwysfawr ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar adolygiad o’r bôn i’r brig o anghenion iechyd y cyhoedd nawr ac yn y dyfodol, gan gynnwys cynlluniau iechyd pwrpasol ar gyfer plant a phobl hŷn.
  • Symud adnoddau’n raddol tuag at fesurau sy’n hybu gwell iechyd a llesiant – gan gynnwys hyrwyddo ffyrdd iach o fyw; cefnogi celfyddydau, diwylliant a chwaraeon cymunedol; a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a thai gwael.
  • Hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol ac ymyriadau sy’n seiliedig ar natur i wella iechyd a llesiant pobl.

Iechyd, Gofal a Llesiant: darllen mwy