Mae rhoi cymorth gwell a mwy prydlon i’r 1 o bob 2 o bobl yng Nghymru a fydd yn cael diagnosis o ganser yn ystod eu hoes yn un o brif flaenoriaethau Plaid Cymru.
Drwy ein Cynllun Canser newydd i Gymru, byddwn yn:
- Blaenoriaethu atal. Mae modd atal hyd at 40% o ganserau – byddwn yn helpu pobl i ddeall eu risg o ganser yn well a lleihau’r risg honno.
- Rhoi mesurau newydd ar waith i sicrhau bod mwy o ganserau’n cael eu dal yn gynharach, gan gynnwys gwell prosesau sgrinio a hunansgrinio, ac ehangu hyfforddiant arloesol ‘ThinkCancer!’ i feddygon teulu a nyrsys practis.
- Gweithio i sicrhau mynediad teg at wasanaethau canser ym mhob rhan o Gymru. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno cynlluniau ar gyfer Canolfan Diagnosis Cyflym newydd ym Mhowys – lle mae’n rhaid i gleifion deithio y tu allan i’r rhanbarth i gael asesiad arbenigol ar hyn o bryd oherwydd bod dim gwasanaethau diagnostig ar gael yn lleol.
- Sefydlu cronfa i gefnogi cleifion sydd angen teithio am driniaeth arbenigol ar gyfer canserau prin gyda’u costau cludiant a llety.
- Rhoi mwy o berchnogaeth a rheolaeth i gleifion dros driniaeth canser, drwy fframwaith Llwybrau Canser Optimaidd newydd ar gyfer Cymru – sy’n nodi’n union yr hyn y gall cleifion canser ei ddisgwyl a’r hyn y dylent ei ddisgwyl ar bob cam o’u triniaeth.
- Sicrhau nad yw pobl sy’n goroesi canser yn cael eu diffinio gan eu cyflwr am oes – gan gynnwys deddfu ar gyfer ‘Hawl i anghofio’ i’w hamddiffyn rhag gwahaniaethu ar ffurf premiymau yswiriant uwch neu anawsterau wrth gael morgais.
- Cryfhau’r rheolau cyfreithiol ynghylch caniatâd cleifion ar gyfer llawdriniaeth tiwmor ar yr ymennydd a storio meinwe tiwmor ar yr ymennydd.
Mae natur gwaith diffoddwyr tân yn golygu eu bod yn fwy tueddol o gael mathau penodol o ganser. Byddwn yn gweithio gyda’r gwasanaethau tân ac achub i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn yn well rhag y canserau galwedigaethol hyn – gyda gwell trefniadau diheintio a monitro iechyd.