Mae dementia eisoes yn un o brif achosion marwolaethau yng Nghymru, ac mae Alzheimer’s Cymru yn amcangyfrif y bydd 37% yn fwy o bobl yn byw gyda dementia erbyn 2040. Mae ei effaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r rhai sy’n cael diagnosis, gan roi baich emosiynol ac ymarferol trwm ar ffrindiau ac anwyliaid.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn blaenoriaethu diagnosis cynharach, yn ogystal â gwell cefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia a’r rhai sy’n gofalu amdanynt.
Byddwn yn:
- Cyflwyno targed cenedlaethol i gael diagnosis dementia cychwynnol o fewn 12 wythnos – gan gyhoeddi data amseroedd aros yn fisol ac adroddiadau cynnydd yn flynyddol.
- Ehangu capasiti diagnostig, a sicrhau mynediad prydlon at driniaethau fel atalyddion AChE lle bo hynny’n briodol.
- Gweithio i sicrhau asesiadau prydlon o anghenion a darparu hyfforddiant wedi’i deilwra i ofalwyr di-dâl sy’n cefnogi pobl â dementia.
- Gwella mynediad at asesiadau cof drwy feddygfeydd ar gyfer pobl dros 70 oed, gan gefnogi’r gwaith o ganfod y cyflwr yn gynharach ac atgyfeirio cleifion yn brydlon.
- Cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol i wella dealltwriaeth pobl o symptomau dementia a mynd i’r afael â stigma.
- Diogelu mynediad gofalwyr teulu dynodedig i leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ar yr un sail â staff iechyd a gofal cymdeithasol cyflogedig.