Adfer gwasanaethau meddygon teulu

Mae meddygfeydd ar reng flaen ein GIG – nhw yw’r pwynt mynediad i gael gafael ar wasanaethau iechyd. Mewn dros 90% o achosion, mae cyswllt cyntaf cleifion â’r GIG yng Nghymru yn digwydd drwy wasanaeth iechyd sylfaenol.

Do, mae arian wedi cael ei roi i’n hysbytai dros y degawd diwethaf, ond roedd hynny ar draul ein meddygfeydd. Ac mae hyn wedi cyfrannu at ostyngiad yn nifer y meddygon teulu sy’n gweithio yng Nghymru.

Byddwn yn cymryd camau ar unwaith i wrthdroi’r tueddiadau hyn, gyda’r nod o adfer Cymru i gymhareb gyfartalog yr OECD o 1.08 meddyg teulu fesul 1,000 o bobl, a’i gwneud yn haws ac yn gyflymach i bawb weld meddyg teulu pan fydd angen un arnynt.

Byddwn yn:

  • Recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu cyflogedig newydd, a gwella mynediad drwy wasanaethau digidol a theleiechyd, fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â rhestrau aros.
  • Mynnu bod pob bwrdd iechyd yn llunio cynllun i adfer cyllid ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu.
  • Adolygu a diwygio’r model cyllido ar gyfer gwasanaethau meddygon teulu, i sicrhau cyllid teg a chyson ar draws pob meddygfa, a sefydlu cronfa grantiau cyfalaf i helpu meddygfeydd gyda gorbenion a chostau rhedeg cynyddol.
  • Gwneud gwasanaethau meddygon teulu yn fwy cynaliadwy drwy hybu’r syniad o ffederaleiddio meddygfeydd a lleihau biwrocratiaeth, a lliniaru’r pwysau ymhellach drwy gefnogi mynediad at wasanaethau iechyd sylfaenol drwy fferyllfeydd cymunedol

Iechyd, Gofal a Llesiant: darllen mwy