Ar hyn o bryd, mae tua 600,000 o bobl ar restrau aros y GIG yng Nghymru. Mae dros 5,000 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy na dwy flynedd am driniaeth, o’i gymharu â llai na 200 yn Lloegr.
Mae gennym gynllun wedi’i gostio, wedi’i dargedu, ac wedi’i arwain gan arbenigwyr i dorri rhestrau aros, a lleihau’r niferoedd hyn.
Byddwn yn:
- Recriwtio hyd at 100 o feddygon teulu cyflogedig ychwanegol, gan ganolbwyntio ar wella mynediad at ofal y tu allan i oriau arferol a lleddfu’r pwysau ar wasanaethau yn ein hysbytai, yn enwedig adrannau damweiniau ac achosion brys.
- Buddsoddi mewn digideiddio a gwasanaethau teleiechyd, er mwyn sicrhau rhagor o fynediad at feddygon teulu a gwasanaethau iechyd cysylltiedig drwy apwyntiadau o bell ac ar-lein.
- Gweithredu argymhellion Coleg Brenhinol y Llawfeddygon i ddarparu 10 hwb llawfeddygol newydd. Bydd y canolfannau pwrpasol hyn yn darparu niferoedd uchel o driniaethau yn y meysydd arbenigol lle mae cleifion yn aros hiraf, gan gynnwys offthalmoleg, orthopaedeg a llawfeddygaeth gyffredinol.
- Mynd i’r afael â gofal mewn coridorau drwy gynyddu nifer y gwelyau ar wardiau ysbytai Cymru, ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn o ostyngiadau.
- Rhoi diwedd ar y loteri cod post ym maes gofal iechyd drwy wella sut mae gofal yn cael ei gynllunio a’i ddarparu ar draws y GIG yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys deddfu i sefydlu cydweithrediad rhwng byrddau iechyd, er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael mynediad prydlon at driniaethau penodol a bod argaeledd, dibynadwyedd ac ansawdd y gofal maen nhw’n ei gael yr un fath lle bynnag maen nhw’n byw.
- Cyflawni yn unol â Chynllun Iechyd Menywod GIG Cymru a gweithio i’w gryfhau – gan leihau’r oedi cyn cael diagnosis a lleihau triniaethau hwyr i fenywod a merched mewn meysydd fel canser, diabetes ac iechyd meddwl, yn ogystal â chyflyrau sy’n effeithio’n bennaf ar fenywod fel endometriosis a’r menopos.