Yn rhy aml, mae’r GIG yng Nghymru yn wasanaeth analog sy’n gweithredu mewn oes ddigidol – mae’n parhau i fod yn orddibynnol ar gofnodion papur sy’n hawdd eu colli neu eu difrodi, sy’n anodd i gleifion gael gafael arnynt, ac sy’n ei gwneud yn anodd rhannu data. Mae hefyd yn anoddach cael apwyntiadau’n ddigidol neu drwy wasanaethau teleiechyd nag y dylai fod.
I wneud ein gwasanaethau iechyd yn fwy effeithiol a chynhyrchiol, byddwn yn hybu mwy o ddigideiddio a gwell prosesau rheoli data.
Byddwn yn:
- Gwella mynediad at deleiechyd a thelefeddygaeth fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â rhestrau aros.
- Gwella Ap GIG Cymru, a’i wneud yn adnodd sy’n helpu pobl i reoli eu hiechyd a chymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau am eu gofal iechyd.
- Deddfu i wella safonau data iechyd, ei gwneud yn haws rhannu data ar draws byrddau iechyd, a chysylltu cofnodion ar draws y systemau iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gweithredu strategaeth ddigidol 10 mlynedd newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru – gan hybu arloesedd a’r defnydd strategol o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau newydd eraill yn y GIG er mwyn lleihau’r baich gweinyddol ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cyflymu prosesau sgrinio, gwella diagnosteg, a helpu i ddatblygu cynlluniau triniaeth wedi’u personoli.