Y Gweithlu

Does dim GIG heb ei staff. Byddwn yn sicrhau bod staff yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, a bod hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr amodau gorau posib yng nghontractau’r GIG. Byddwn yn gweithio i alluogi nyrsys i weithio’n fwy hyblyg ac i sicrhau amser wedi’i neilltuo ar gyfer eu datblygiad proffesiynol parhaus.

Byddwn yn cynnal Bwrsariaeth GIG Cymru ac yn rhoi cynllun cynhwysfawr, hirdymor ar waith i gefnogi ac i dyfu gweithlu’r GIG.

Bydd ein cynllun yn canolbwyntio ar greu’r nifer a’r cydbwysedd cywir o leoliadau addysg a hyfforddiant ar gyfer nyrsys, meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill – gan gynnwys ehangu mynediad at gymwysterau proffesiynol drwy lwybrau newydd, fel prentisiaethau.


Diogelu ein GIG at y dyfodol : darllen mwy