Mae Plaid Cymru wedi arwain yr agenda ar wella ymatebolrwydd Cymru i lifogydd, gan sicrhau miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad newydd mewn amddiffynfeydd llifogydd a chymorth i fusnesau a chartrefi sy’n teimlo’r effeithiau.
Mae llawer o gymunedau’n wynebu llifogydd yn amlach ac ar lefel fwy difrifol, felly mae angen cymryd camau pellach ar frys i baratoi ar gyfer llifogydd a’u hatal, ac i ymateb yn gyflym pan fydd llifogydd yn digwydd.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn:
- Creu Fforwm Gwytnwch a Pharodrwydd Llifogydd i Gymru, gan ddod ag awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwasanaethau brys a sefydliadau cymunedol at ei gilydd i gydlynu strategaeth genedlaethol ar lifogydd.
- Sefydlu Canolfannau Gwrthsefyll Llifogydd mewn cymunedau sydd mewn perygl – gan ddarparu canolfannau lleol ar gyfer cynllunio, offer, gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer argyfyngau.
- Datblygu strategaethau gwrthsefyll llifogydd sy’n benodol i ranbarth ar gyfer pob dalgylch, wedi’u hategu gan well data, gwaith monitro llifogydd mewn amser real a systemau rhybuddio cynnar i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, a’u paratoi.
- Galw am ymestyn cynllun Flood Re y DU y tu hwnt i 2036 ac archwilio opsiynau ar gyfer creu Cronfa Gwarant Yswiriant Llifogydd i warantu rhwymedigaethau yswiriant ar gyfer busnesau bach, gan eu helpu i gael yswiriant llifogydd fforddiadwy mewn ardaloedd uchel eu risg lle mae costau yswiriant yn amhosib eu fforddio.
- Adolygu’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Rhanbarthau Draenio Mewnol i roi’r cymorth gorau i dirfeddianwyr a chymunedau ar gyfer rheoli llifogydd yn effeithiol.
- Defnyddio dull dalgylch cyfan o fuddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd – gan gynnwys atebion i fyny’r afon sy’n seiliedig ar natur – gan sicrhau bod y buddsoddiad hwn yn darparu amddiffyniad hirdymor a chadarn rhag llifogydd, yn ogystal â gwerth am arian.
- Ehangu gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl mewn cymunedau sy’n teimlo effeithiau llifogydd.