Llywodraethu’r pontio gwyrdd

Mynd i’r afael â newid hinsawdd fydd un o brif flaenoriaethau llywodraeth Plaid Cymru.

Byddwn yn cynhyrchu Cynllun Gweithredu Hinsawdd a Natur wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cymru, a fydd yn canolbwyntio ar fapio llwybr ymarferol at sero net erbyn 2040 a blaenoriaethu ynni cymunedol, sgiliau a swyddi gwyrdd, trafnidiaeth lanach, cartrefi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, a diogelu ac adfer tirweddau sy’n llawn natur.

I sicrhau bod gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn cael ei flaenoriaethu a’i gydlynu’n effeithiol ar draws y llywodraeth, byddwn yn:

  • Gwreiddio datgarboneiddio, cynaliadwyedd a diogelu’r amgylchedd fel cyfrifoldebau trawsbynciol ar lefel cabinet ar draws pob maes portffolio.
  • Cryfhau atebolrwydd drwy ddarparu adroddiadau cyhoeddus clir ar gynnydd Cymru at sero net drwy ddangosfwrdd ar-lein hygyrch.
  • Sicrhau bod Cymru’n fwy parod ar gyfer effeithiau’r hinsawdd drwy gyhoeddi asesiad risg hinsawdd sy’n cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.
  • Sefydlu Bwrdd Pontio Teg i arwain y strategaeth sero net – gan ddod ag arbenigwyr perthnasol at ei gilydd a sicrhau bod gan randdeiliaid allweddol rôl ystyrlon yn y gwaith o lunio polisïau.

Byddwn yn defnyddio pwerau newydd ar lywodraethu amgylcheddol i osod targedau uchelgeisiol ar adfer natur – gan leihau’r lefelau colli bioamrywiaeth a sicrhau adferiad sylweddol erbyn 2050. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth), byddwn yn sefydlu Swyddfa Llywodraethiant Amgylcheddol Cymru (OEGW) sy’n gryf, yn annibynnol ac yn gallu dal awdurdodau cyhoeddus i gyfrif am gyflawni targedau amgylcheddol.

Byddwn yn cefnogi Gwasanaeth Natur Cenedlaethol Cymru fel cyfrwng i gynyddu eco-lythrennedd, i ddatblygu sgiliau gwyrdd ac i greu swyddi newydd a chyfleoedd bywoliaeth ym maes adfer natur.

Byddwn yn gweithio gyda gwledydd eraill y DU i wahardd gwerthu mawn garddwriaethol ac i barhau i weithio ar adfer mawndiroedd.

Wrth adolygu a diwygio cynlluniau gofodol, ein nod fydd taro’r cydbwysedd iawn rhwng diogeledd bwyd, adfer natur a mynediad at natur, anghenion datblygu lleol, ac ynni adnewyddadwy o ran defnydd tir. Byddwn hefyd yn gwella cynlluniau morol ac yn hybu cynaliadwyedd ein hamgylcheddau arfordirol a morol.

Byddwn yn sicrhau bod rheoliadau cynllunio yn hwyluso’r pontio gwyrdd yn well, gan gynnwys drwy amserlenni cydsynio mwy cadarn ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy a hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer pympiau gwres, paneli solar ar gartrefi, ac ynni adnewyddadwy arall ar raddfa fach.


Cynaliadwyedd, Adnoddau a Gwytnwch Gwledig: darllen mwy