Mae Plaid Cymru yn credu y dylai Cymru osod safonau uchel ar gyfer trin pob anifail. Gan adeiladu ar y safonau lles anifeiliaid uchel sydd eisoes ar waith yng Nghymru, byddwn yn:
- Datblygu Cynllun Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd sy’n cael ei arwain gan wyddoniaeth, ac a fydd yn rhoi sylw i les anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm.
- Cyflwyno fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid – gan sicrhau safonau cyson y gellir eu gorfodi ledled Cymru i ddiogelu lles anifeiliaid a hybu arferion cyfrifol.
- Annog pobl i fridio a chadw anifeiliaid anwes yn gyfrifol, gan archwilio cosbau cryfach am berchnogaeth anghyfrifol, hysbysiadau rheoli cŵn, pwerau gorfodi sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chynllun cofrestru neu drwyddedu cŵn.
- Cyflwyno hawl gyfreithiol i rentwyr ofyn am gael cadw anifail anwes, lle nad yw landlordiaid yn gallu gwrthod yn afresymol.
Bydd llywodraeth Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu Ysgol Filfeddygol annibynnol yn Aberystwyth – i helpu i hyfforddi, recriwtio a chadw milfeddygon yng Nghymru, gan hybu darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.