Ar hyn o bryd, nid oes gennym ddarlun clir o hyd a lled yr ôl-groniad o waith cynnal a chadw sydd i’w wneud mewn ysgolion yng Nghymru, gan nad yw’r data yma’n cael ei gasglu’n systematig. Nid yw rhai awdurdodau lleol yn gallu darparu data ar atgyweirio ysgolion.
Byddwn yn comisiynu arolwg cenedlaethol o gyflwr adeiladau ysgolion er mwyn cael darlun cliriach o gyflwr yr ystâd ysgolion yng Nghymru. Byddwn yn nodi’r gwaith atgyweirio ac uwchraddio mwyaf brys, ac yn sicrhau bod rhaglen ar waith i ymgymryd â’r gwaith angenrheidiol.