Anghenion Dysgu Ychwanegol

Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn mynd i’r afael â heriau allweddol yn y system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru. Byddwn yn cymryd camau ar unwaith i ddechrau adfer cynaliadwyedd hirdymor y system ar ôl blynyddoedd o bwysau difrifol a pharhaus.

Byddwn yn:

  • Symleiddio ac egluro’r system ADY ar gyfer ysgolion a cholegau, dysgwyr a theuluoedd – gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu’n well yr hyn y gall ysgolion ei gyflawni, a bod gweithrediad y Cod a'r Ddeddf ADY yn gyson ar draws pob awdurdod lleol.
  • Paratoi pob addysgwr i gefnogi dysgwyr ag ADY drwy wneud hyfforddiant ADY yn orfodol i bob athro a chynorthwyydd addysgu – fel rhan o addysg gychwynnol athrawon ac fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • Cwblhau’r gwaith o drosglwyddo Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol i raddfa gyflog arweinwyr, a chysoni eu hamodau gwaith ag arweinwyr ysgolion eraill, gan gydnabod pwysigrwydd strategol eu rôl.
  • Gweithio i ehangu darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg, gan sicrhau bod plant a theuluoedd yn gallu cael gafael ar gymorth yn eu hiaith gyntaf neu eu hiaith darged.

Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy