Bob dydd mewn ystafelloedd dosbarth ym mhob cwr o Gymru, mae athrawon a chynorthwywyr addysgu ymroddedig yn mynd yr ail filltir i rannu gwybodaeth, meithrin sgiliau bywyd, ac ysbrydoli eu myfyrwyr. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a gweithio mewn partneriaeth â’n gweithlu addysg a sicrhau bod addysgu yn yrfa uchel ei pharch, ddeniadol, a gwerth chweil.
Er mwyn cyflawni hyn, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio gyda’r proffesiwn i wneud y canlynol:
- Lleihau’r llwyth gwaith drwy gael gwared ar fiwrocratiaeth a gwaith papur diangen.
- Darparu canllawiau ac adnoddau cliriach ar gynllunio’r cwricwlwm, gan roi mwy o hyder i athrawon o ran yr hyn y mae disgwyl iddynt ei addysgu, a’r hyn y mae disgwyl i ddysgwyr ei gyflawni.
- Gwneud contractau addysgu yn fwy hyblyg, gan gynnwys ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel ar gael i bob addysgwr, gan gynnwys cyfleoedd ehangach i ddysgu Cymraeg.
Byddwn yn gwella telerau ac amodau athrawon llanw ac yn gweithio gydag ysgolion, awdurdodau lleol a phartneriaid cymdeithasol eraill i ddatblygu dewisiadau amgen cynaliadwy yn lle’r model presennol sy’n cael ei arwain gan asiantaethau.
Gwyddom fod prinder dybryd o athrawon cymwysedig mewn pynciau allweddol – gan gynnwys gwyddoniaeth, mathemateg ac ieithoedd tramor modern – a bod angen mwy o athrawon sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ogystal â gwell amodau i athrawon a chyfleoedd newydd ar gyfer datblygiad proffesiynol, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig cymhellion mwy cystadleuol i ddenu a chadw’r genhedlaeth nesaf o athrawon. Byddwn yn cau’r bwlch yn raddol rhyngom ni a Lloegr fel nad yw athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru dan anfantais ariannol am ddewis astudio a gweithio yma.
Erbyn 2030, bydd Cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yng Nghymru yn cyfateb i’r rhai yn Lloegr, gyda hyd at £30,000 ar gael ar gyfer y pynciau sydd fwyaf o flaenoriaeth – dwbl y £15,000 presennol.
Er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad cyhoeddus hwn yn arwain at fanteision hirdymor i ysgolion Cymru, bydd angen i’r rhai sy’n cael bwrsariaethau barhau i addysgu yng Nghymru am hyd at bum mlynedd, gan adeiladu ar fodelau llwyddiannus a ddefnyddir yn GIG Cymru.