Gosod safonau newydd mewn addysg

Darllen, ysgrifennu a mathemateg yw rhai o’r sgiliau bywyd pwysicaf y gall ein hysgolion eu haddysgu. Ond mae canlyniadau diweddaraf PISA Cymru yn dangos bod gormod o bobl ifanc yn gadael yr ysgol heb y cymwyseddau hanfodol hyn.

Yn 2022, fe wnaeth ein sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth ostwng i’w lefelau isaf erioed – llawer is na chyfartaledd yr OECD.

Codi safonau llythrennedd a rhifedd yw un o’r heriau mwyaf brys sy’n wynebu ein system addysg. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei gefnogi i ddatblygu’r sgiliau sylfaenol cryf sydd eu hangen arno.

Gan ddefnyddio’r arferion rhyngwladol gorau, bydd ein Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd yn:

  • Sefydlu targedau llythrennedd a rhifedd ar lefel genedlaethol ac ar lefel ysgolion, ochr yn ochr â thargedau unigol wedi’u teilwra ar gyfer pob disgybl.
  • Rhoi eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i blant ei ddysgu a phryd, olrhain cynnydd disgyblion, a rhoi cymorth uniongyrchol i’r rhai sydd ar ei hôl hi.
  • Gosod meini prawf craidd sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer addysgu llythrennedd a rhifedd, gyda phob plentyn yn cael ei addysgu i ddarllen gan ddefnyddio ffoneg synthetig systematig – gan ddysgu sut i gyfateb llythrennau a seiniau’n effeithiol.

Bydd y Cynllun yn cael ei ategu gan y canlynol:

  • Llyfrgell ym mhob ysgol gynradd, sy’n rhoi mynediad i bob plentyn at leoliad pwrpasol sy’n meithrin cariad gydol oes at ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.
  • Darllen ar draws y cwricwlwm – ymgorffori llythrennedd ym mhob pwnc ysgol uwchradd, gyda strategaethau darllen penodol-i-bwnc a chefnogaeth gryfach i ddisgyblion yn ystod y cyfnod pontio hollbwysig o addysg gynradd i addysg uwchradd.

Er mwyn helpu athrawon i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith mewn modd cyson, ac i sicrhau pontio llyfnach rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, byddwn yn darparu canllawiau ac adnoddau ychwanegol sy’n nodi disgwyliadau cliriach ar gyfer cynnydd ar draws y cwricwlwm. Bydd hyn yn cael gwared ar yr amwysedd a’r ansicrwydd y mae athrawon wedi’u hwynebu o ran yr hyn mae’r Cwricwlwm i Gymru yn gofyn iddyn nhw ei wneud.

Byddwn yn cynnal adolygiad ehangach o’r Cwricwlwm i Gymru i sicrhau ei fod yn mynd ati’n effeithiol i ddarparu’r wybodaeth penodol-i-bwnc ddofn ac eang sydd ei hangen ar ddisgyblion yng Nghymru.

Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth lawn ag awdurdodau lleol i sicrhau’r enillion mwyaf posib ar wariant addysg. Bydd hyn yn cynnwys cynnal archwiliad ar y cyd i fynd i’r afael â gwahaniaethau mewn cyllid fesul disgybl ac i sicrhau bod buddsoddi mewn blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ddysgwyr.

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Bydd llywodraeth Plaid Cymru yn adolygu sut mae’r polisi hwn yn cael ei weithredu, gan sicrhau bod penderfyniadau ar ad-drefnu ysgolion yn cael eu harwain yn flaenaf oll gan les pennaf disgyblion.


Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg: darllen mwy