Drwy ddiwygio’r gwasanaethau bysiau yng Nghymru, byddwn yn sicrhau bod dyluniad llwybrau bysiau a’u darpariaeth yn ystyried angen dysgwyr i gyrraedd ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu tocynnau bws sengl am £1 a thocynnau diwrnod am £3 i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 21 oed.
Ar ben hynny, byddwn yn adolygu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod cynifer o deuluoedd â phosib yn gallu cael gafael ar gludiant i’r ysgol, gan fynd i’r afael â rhwystrau penodol sy’n atal pobl rhag cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.