Torri’r cylch tlodi

Bydd codi plant allan o dlodi yn genhadaeth ganolog a thyngedfennol i lywodraeth Plaid Cymru.

Mae tlodi’n faich ar blant ac mae tynnu’r baich hwnnw yn eu helpu i berfformio’n well yn yr ysgol, yn gwella eu hiechyd hirdymor, eu llesiant a’u cyfleoedd mewn bywyd, ac yn lleihau biliau’r systemau lles ac iechyd.

Felly, mae lleihau tlodi plant yn fuddsoddiad clyfar yn nyfodol Cymru. Ac wrth wneud y buddsoddiad hwn, byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth ryngwladol ar yr hyn sy’n gweithio go iawn wrth fynd i’r afael â thlodi plant.

Yn wahanol i lywodraethau blaenorol Cymru, byddwn yn defnyddio pob arf a dull sydd ar gael i leihau tlodi plant, a byddwn yn mynd ati heb ymddiheuriad i bwyso am ddatganoli’r pwerau ychwanegol sydd eu hangen arnom i fynd ymhellach o ran cyflawni’r genhadaeth hon.

Byddwn yn pwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod cael gwared ar y terfyn dau blentyn ar gyfer budd-daliadau yn arwain at newid go iawn i blant sy’n byw mewn tlodi, gan gynnwys drwy godi’r cap cyffredinol ar fudd-daliadau.


Cyfiawnder a Thegwch Cymdeithasol: darllen mwy