Strategaeth tlodi plant sy’n addas i’r diben

Fel blaenoriaeth uniongyrchol i lywodraeth newydd Plaid Cymru, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynllun newydd i fynd i’r afael â thlodi plant, gan osod targedau, meincnodau a cherrig milltir clir i sbarduno newid sy’n uchelgeisiol, ond sy’n gallu cael ei gyflawni.

Wrth ddisodli’r dull presennol – sydd heb ffocws na chyfeiriad – byddwn yn dysgu o’r arferion rhyngwladol gorau ac yn darparu ymyriadau wedi’u targedu y gellir mesur eu heffaith yn glir.


Torri’r cylch tlodi: darllen mwy