Gall gofal plant fforddiadwy o ansawdd da drawsnewid cyfleoedd bywyd plant – yn enwedig plant o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Mae hefyd yn helpu rhieni i ddychwelyd i’r gwaith ac yn rhoi hwb i incwm teuluoedd.
Pan fydd wedi’i gyflwyno’n llawn, ein cynnig gofal plant newydd fydd y cynnig mwyaf hael yn y DU, gan roi 20 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, am 48 wythnos y flwyddyn, i blant rhwng 9 mis oed a 4 blwydd oed – gofal sy’n werth dros £30,000 i deulu ym mhedair blynedd gyntaf bywyd plentyn.
Bydd y cynnig cyffredinol hwn ar gael i bob rhiant, beth bynnag yw eu statws gwaith.