Mae Plaid Cymru yn credu mewn gwaith teilwng sy’n talu’n deg. Byddwn yn mabwysiadu dull Gwaith Teg yn Gyntaf o ddyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau yn y sector cyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau bod sefydliadau sy’n elwa ar arian cyhoeddus yn talu cyflog byw, yn rhoi llais go iawn i weithwyr, yn buddsoddi mewn sgiliau a datblygu’r gweithlu, ac nad ydynt yn defnyddio contractau dim oriau yn amhriodol.