Mae Plaid Cymru yn credu y dylid cydnabod niwroamrywiaeth fel mater cydraddoldeb, ac y dylai gwasanaethau cyhoeddus orfod gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag awtistiaeth, ADHD a chyflyrau niwrowahanol eraill.
Byddwn yn:
- Sicrhau bod lleoliadau addysgol, iechyd a gofal cymdeithasol, gweithleoedd, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill i gyd wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch i bobl niwrowahanol heb rwystrau diangen.
- Gweithio i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiadau a chymorth niwroddatblygiadol, archwilio ffyrdd o symleiddio prosesau a sicrhau mynediad prydlon at gymorth, hyd yn oed cyn diagnosis ffurfiol – gan roi’r gorau i orfeddyginiaethu a throthwyon diagnostig anhyblyg.
- Gwella ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth a hyfforddiant niwroamrywiaeth, gan gynnwys ymysg athrawon, meddygon, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus a busnesau.
- Rhoi lleisiau pobl niwrowahanol wrth galon y gwaith o ddylunio a gweithredu polisïau, er mwyn i’w profiad bywyd fod yn sail i’r gwaith o ddatblygu, darparu a gwerthuso gwasanaethau.
Byddwn yn gweithredu ar argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Ymgyrch ‘Cartrefi nid Ysbytai’ gan Bywydau wedi’u Dwyn er mwyn creu llwybr i sicrhau bod mwy o bobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn gallu byw’n ddiogel, yn nes at adref.